* Page Loading - Please Wait *
Sorry, This Event is in the past!
Darlleniad gwaith ar waith
Drama abswrd am hanes, enwogrwydd, henaint a chysgod rhyfel.
Yn nhafarn Y Pen lan Fawr ym Mhwllheli mae ysbryd Lloyd George yn byw. Mae ?na luniau ohono ar hyd y waliau gan gynnwys un gydag Adolf Hitler yn 1936?
Daw ysbryd Hitler i?r dafarn i chwilio am sgwrs?. mae?r ddau yn rwdlian, hel atgofion ac yn gwrando ar bach o John ac Alun.
Ond mae?r ddau yn ffraeo hefyd wrth i?r ddau ddadlau dros pwy oedd y mwyaf llwyddianus.
Fe werthodd Lloyd George ei holl egwyddorion radicalaidd dros y blynyddoedd, tra arhosodd Hitler yn driw i?w fyd olwg wyrdroedig ei hun. Enillodd Lloyd George ei ryfel, ac eto Hitler yw?r enwocaf o bellffordd . Ac am y llun ar wal y Pen- lan, os nad ydi pobol yn gwybod pwy ydi Lloyd George, y cyfan mae nhw?n ei weld ydi Hitler...
Drama sy?n gofyn cwestiynau mawr am natur hanes, y cof a?r gwirionedd?.
Bydd cyfle hefyd wedi'r darlleniad i chi gyfarfod yr awdur i hyn a holi ychydig o gwestiynau iddo am y darn arbennig hwn o waith.
Daw Gruffudd Owen o Bwllheli ac mae?n fardd, yn sgriptiwr teledu ac yn ddramodydd. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a bydd ei ddrama ?Parti Priodas? yn cael ei pherfformio ar faes yr Eisteddfod Genhedlaethol ym Moduan.
Llanystumdwy,
Gwynedd,
Wales,
LL52 0SH.
Sorry, This Event is in the past!
Whilst every effort goes into ensuring this event listing is accurate and up to date, always check with the venue before you travel.